Cartref > Cleientiaid > Geirdaon
Geirdaon
"Rydym ni wedi cadarnhau Pathway to Carbon Zero fel cyflenwr dibynadwy i ddarparu gwasanaethau ymgynghori lleihau carbon i'n eco-system Partner Microsoft ledled y DU, gan ffurfio rhan o strategaeth ESG ein hunain a'n hymrwymiad i leihau ein hôl troed carbon Cwmpas 3."
Senior Vice President Cloud Services Michael Frisby
"Drwy ymgysylltu â Pathway to Carbon Zero rydym ni wedi gallu deall lle mae angen i ni wneud newidiadau cadarnhaol o fewn ein busnes i gefnogi ein hymrwymiad i leihau ein hôl troed carbon a herio ein cynaliadwyedd ar draws pob maes o'r busnes. Rydym ni bellach yn gweithredu o safle sy'n defnyddio 30% yn llai o ddeunyddiau. Rydym ni’n edrych ymlaen at barhau i greu prosesau arloesol newydd i'n helpu i sbarduno newid i fodloni uchelgeisiau ein rhanddeiliaid yn ogystal â'n rhai ni ein hunain."
Operations Director Monique
"Cyflawni allyriadau carbon Sero Net yw un o'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a'n heffaith ar ein hamgylchedd. Wrth i ni symud ymlaen, bydd y bartneriaeth hon gyda Pathway to Carbon Zero yn ein helpu i ystyried ymhellach sut y gallwn ni leihau ein heffaith ar ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydym ni’n gwybod bod y camau rydym ni’n eu cymryd nawr, ac wrth i'n busnes dyfu, yn bwysig i'n dyfodol."
Gatewen Training Services owner Julian Hughes
"‘The team feedback has been really positive regarding the Sustainability Toolbox Talk; they thought it was informative and worthwhile – it provided a real insight into how we can positively change behaviour in our personal and work life to collectively build a sustainable future. ‘"
Lauren Davies - Head of Operations at Genfit (B-Corp certified business)
"Yn ddiweddar bûm mewn gweithdy a hwyluswyd gan Cat a Llwybr i Ddi-Garbon (Pathway to Carbon Zero). Roedd y gweithdy yn wych ac wedi helpu i egluro terminoleg Llywodraethu Amgylcheddol, Cymdeithasol (ESG), yn ogystal â'n hysbrydoli i gymryd camau cadarnhaol. Gadewais y gweithdy gyda hyder a’r modd i roi newid cadarnhaol ar waith yn fy nghwmni."
Simon Morris - Sustainable Packaging Development Lead (AIEMA) at Lyan Packaging